Dylunio i'r We
Dyluniau gwych i'r we
Mae Cornish WebServices yn arbenigo mewn:
- Gwefannau hygyrch
- Gwefannau optimeiddiedig I beiriannau chwilio
- Gwefannau marchnata
- Gwefannau Amlieithog
- Gwefannau e-fasnach a siopau ar-lein
- Logos a brandio
Rydym wedi gweithio i gleientiaid mawr gan gynnwys yr Amgueddfa Brydeinig, Defra a'r Ganolfan Veritas, Orbital Group a Total Logistics.
Rydym yn cynllunio amrywiaeth eang o wefannau a chynnwys ar gyfer y we. Beth bynnag yr ydych am ei gyflawni gyda eich gwefan gallwn ni eich helpu chi. Rydym wedi cynllunio popeth o siopau ar-lein i wefannau corfforaethol i logos a brandio cwmni. Rydym hefyd yn datblygu systemau gweithredol i weithio ar wefannau megis ffurflenni teithio a dyddiaduron ar-lein.
Mae ein gwefannau wedi'u cynllunio gyda SEO, fel eu bod yn cael eu optimeiddio yn naturiol, drwy eu cynllun a'u cynnwys, i fod yn weladwy iawn ar-lein.
Mae rhai o'r gwefannau hyn yn cael eu cynnal gan y cleient gan ddefnyddio ein system Cornish CMS (content management system), sydd yn hawdd i'w defnyddio ac yn amlieithog. Mae hon yn system glyfar sy'n rhoi'r gallu i gleientiaid i olygu cynnwys eu safle a gwneud diweddariadau yn rheolaidd.
Hefyd, gallwn ddylunio brandio all-lein, megis logos neu lenyddiaeth cwmni, i gyd-fynd ochr yn ochr â'ch dyluniad o'ch gwefan newydd. Am fwy o wybodaeth am ein gwaith dylunio o safon, cysylltwch â'n tîm heddiw.
Portffolio
Mae Cornish WebServices wedi dylunio ac adeiladu dros 200 o wefannau o wahanol fathau. Cymerwch gip ar ein portffolio o ddyluniadau gwefannau (yn Saesneg) am ystod o ddyluniadau yr rydym wedi creu ar gyfer ein cleientiaid.